SL(6)486 – Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) (Diwygio) 2024

Cefndir a diben

Mae adran 6(1) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (y Ddeddf) yn rhestru personau penodol sy’n “gyrff cyhoeddus” at ddibenion Rhan 2 a Rhan 3 o’r Ddeddf.

Mae’r Rheoliadau hyn yn ychwanegu 8 person arall at y rhestr o gyrff cyhoeddus yn adran 6(1). Dyma hwy:

·         Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru;

·         Iechyd a Gofal Digidol Cymru;

·         Addysg a Gwella Iechyd Cymru;

·         Gofal Cymdeithasol Cymru;

·         Awdurdod Cyllid Cymru;

·         Trafnidiaeth Cymru;

·         Canolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol;

·         Cymwysterau Cymru.

Mae rheoliad 3 yn gwneud darpariaeth i bennu bod rhaid i’r cyrff cyhoeddus ychwanegol osod a chyhoeddi amcanion llesiant erbyn 31 Mawrth 2025.

Mae rheoliad 4 yn gwneud darpariaeth ar gyfer ymchwiliad ac adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn perthynas â’r cyrff cyhoeddus ychwanegol.

Y weithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni chaiff Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Nodwyd y 7 pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

1.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae’r rhaglith yn nodi bod “Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru a’r cyrff cyhoeddus a restrir o dan reoliad 2, fel sy’n ofynnol o dan adran 52(4) o'r Ddeddf”. Mae hyn yn gamarweiniol gan mai’r gofyniad yn adran 52(4) yw i Weinidogion Cymru ymgynghori â’r canlynol:

(a) y Comisiynydd;

(b) unrhyw bersonau eraill y mae Gweinidogion Cymru yn eu hystyried yn briodol.

(c) os yw’r rheoliadau yn diwygio adran 6(1) er mwyn ychwanegu person, y person hwnnw.

Nid oes gofyniad i ymgynghori ag Archwilydd Cyffredinol Cymru yn benodol. Byddai’n gliriach datgan bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â'r “personau eraill hynny sy’n briodol yn eu barn hwy” yn hytrach na chyfeirio’n benodol at Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth ei enw yn y rhaglith.

Byddai hefyd yn gliriach datgan bod Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau sydd wedi cael eu hychwanegu at adran 6(1), yn hytrach na chyfeirio at y “cyrff cyhoeddus” a “restrir o dan reoliad 2”. Mae paragraff 43 o’r Memorandwm Esboniadol yn nodi’r gofynion ymgynghori yn fwy cywir.

2.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Mae’r Rheoliadau’n cyfeirio at “adran 6” o'r Ddeddf (er enghraifft, yn y penawdau i reoliadau 3 a 4 ac yn nhestun y rheoliadau hynny). Byddai’n gliriach datgan “adran 6(1)” ym mhob achos gan mai dyma’r ddarpariaeth benodol o’r Ddeddf y mae gan Weinidogion Cymru y pŵer i’w diwygio.

3.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Mae rheoliad 2(2) yn mewnosod “Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru” yn adran 6(1) o’r Ddeddf. Fodd bynnag, mae’r enw cyfreithiol a roddir gan erthygl 2 ddiwygiedig o Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Sefydlu) 1998/678 yn defnyddio “Gwasanaeth Iechyd Gwladol” yn hytrach na’r GIG yn yr enw. Nid yw'n glir, felly, pam na ddefnyddiwyd “Ymddiriedolaeth Brifysgol Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru” yn rheoliad 2(2).

4.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Yn rheoliad 2(3), nid yw’n glir pam y cyfeirir at y paragraff newydd a fewnosodir ar ôl paragraff (d) o adran 6(1) fel “(dd)”, yn hytrach na “(da)”. Ceir paragraff “(ba)” a fewnosodwyd yn flaenorol ar ôl paragraff (b) (gan OS 2021/1360 (Cy.356). Gall y defnydd o “(dd)” greu disgwyliad bod paragraffau (da) i (dc) eisoes yn adran 6(1).

5.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Dylai pennawd rheoliad 4 gyfeirio at “Archwilydd Cyffredinol Cymru” yn hytrach na chyfeirio at yr “Archwilydd Cyffredinol”.

6.    Rheol Sefydlog 21.2(v) – bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol

Nid yw’n glir pam y mae cyfeiriadau at “gyrff cyhoeddus a ychwanegir at adran 6 o’r Ddeddf”. Mae’r pwerau galluogi yn caniatáu i Weinidogion Cymru ychwanegu “personau” at adran 6(1) fel y byddant yn cael eu cynnwys o fewn ystyr corff cyhoeddus at ddibenion Rhan 2 a 3 o’r Ddeddf. Mae Trafnidiaeth Cymru a'r Ganolfan Gwasanaethau Cyhoeddus Digidol yn gwmnïau cofrestredig a ychwanegir at adran 6(1). Bydd Rhannau 2 a 3 o’r Ddeddf yn gymwys dim ond i’w swyddogaethau o natur gyhoeddus.

7.    Rheol Sefydlog 21.2(vi) – ei bod yn ymddangos bod gwaith drafftio’r offeryn neu’r drafft yn ddiffygiol neu ei fod yn methu â bodloni gofynion statudol

Yn rheoliad 4(2), byddai’r disgrifiad o’r addasiad yn gliriach pe bai’r geiriau “o adran 15” yn cael eu hailadrodd ar ôl y cyfeiriad at “yn lle is-adran (6)” oherwydd bod cyfeiriadau at adran 6 a 15 yn rheoliad 4(2).

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y 2 bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

8.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae paragraffau 4 i 8 o’r Memorandwm Esboniadol yn cynnwys “materion o ddiddordeb arbennig i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad”. Mae'r paragraffau hyn yn nodi fel a ganlyn:

4.     Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn dymuno nodi:

 

5.     Cynhaliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus (y bumed Senedd) ymchwiliad o'r enw Rhwystrau i weithredu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 yn llwyddiannus rhwng mis Mai 2020 a mis Mawrth 2021. Cyhoeddwyd adroddiad y Pwyllgor Cyflawni ar gyfer Cenedlaethau'r Dyfodol: y stori hyd yma ar 17 Mawrth 2021 a chynhaliwyd dadl yn y Cyfarfod Llawn ar 24 Mawrth 2021. Roedd yr adroddiad yn cynnwys argymhelliad (Argymhelliad 7) i Lywodraeth Cymru gynnal adolygiad o'r cyrff cyhoeddus sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Amlinellodd gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn 2020-21 fod gweithredu’n unol â'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn ffordd amgen a gwell o weithio yn hytrach nag yn ffordd ychwanegol o weithio. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu cryfhau’r trefniadau presennol ar gyfer gosod amcanion, monitro, adrodd, a gwneud penderfyniadau, yn ogystal â hyfforddiant a datblygiad ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

 

6.     Mae cylch gwaith Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol y Senedd yn cynnwys archwilio deddfwriaeth a chraffu ar wariant, gweinyddiaeth a pholisïau ar gyfer materion sy'n ymwneud â gweithredu'r Ddeddf. Yn ei Adroddiad craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol (Diweddariad Ebrill 2022), roedd y Pwyllgor yn falch fod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen ag argymhelliad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i adolygu nifer y cyrff sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf.

 

7.     Yn ddiweddar, cyhoeddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus y Senedd adroddiad o'r enw Craffu ar Gyfrifon: Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru 2022-23 (Mawrth 2024), a oedd yn cynnwys argymhelliad i’r Comisiynydd roi gwybod a fydd yn gallu parhau i roi sicrwydd ynghylch y cymorth a ddarperir gan y tîm cyrff cyhoeddus i'r cyrff cyhoeddus ychwanegol sydd i'w hychwanegu at y Ddeddf, y defnyddiodd ei swyddfa ei chronfeydd wrth gefn i'w ariannu yn 2022-23.

 

8.     Wrth graffu ar y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) fel yr oedd bryd hynny, sy'n gosod dyletswydd partneriaeth gymdeithasol ar y cyrff cyhoeddus a restrir yn adran 6(1) o'r Ddeddf, cynhwysodd Pwyllgor Cyllid y Senedd argymhelliad (Argymhelliad 10) yn ei Adroddiad Cyfnod 1 (Tachwedd 2022) yn gofyn i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl ar ganlyniad yr adolygiad o'r cyrff sy'n ddarostyngedig i'r Ddeddf. Mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu, yn rhannol, argymhellion Pwyllgorau'r Senedd.

 

9.    Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Gall enw’r offeryn ddrysu rhai darllenwyr. Gall defnyddio'r gair “(Diwygio)” yn yr enw wneud i rai darllenwyr feddwl y gall fod offeryn blaenorol, “Rheoliadau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 (Cyrff Cyhoeddus) XXXX” a ddiwygiwyd gan y Rheoliadau hyn.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

5 Mehefin 2024